Pontarddulais
Male Choir

Côr Meibion
Pontarddulais

 

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol

1963 Llandudno, 1965 Y Drenewydd,
1968 Y Barri, 1970 Rhydaman,
1972 Hwlffordd, 1974 Caerfyrddin,
1976 Aberteifi, 1978 Caerdydd,
1981 Machynlleth, 1982 Abertawe,
1994 Castell-nedd, 2003 Y Trallwng,
2004 Casnewydd (ennill Côr yr Wŷl hefyd),
2006 Abertawe (ennill Côr yr Wŷl hefyd),
2008 Caerdydd, 2014 Llanelli

Eisteddfod Aberteifi

1964, 1965, 1967, 1968, 1969, 1970, 1971, 1972, 1974, 1976

Eisteddfod y Glowyr - Porthcawl

1965, 1968, 1969, 1976, 1980, 1987

Eisteddfod Pantyfedwen - Pontrhydfendigaid

1965, 1968

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

1999 Trydydd allan o 11

2000 Ail allan o 13

2001 Cyntaf allan o 12

2004 Cyntaf allan o 13

 

buddugoliaethau

Noel Davies

Cyfarwyddwr Cerdd
1960-2002

 

 

 

amdanom ni

Ddiwedd y 1960au, gyda dynion ifanc y Clwb Ieuenctid lleol yn cyrraedd oedran ymadael â’r Clwb, teimlodd cnewyllyn ohonynt yr awydd cryf i barhau â’r profiadau corawl a gawsant yn y corau hynod lwyddiannus o fewn y Clwb. Troesant at arweinydd carismataidd y gweithgareddau corawl hynny, sef yr athro ifanc Noel Davies am gyngor. A dyna ddechrau stori sydd yn parhau hyd heddiw, gyda phenderfyniad i sefydlu côr meibion newydd – datblygiad dewr mewn ardal oedd eisoes yn frith o gorau meibion tra enwog.

Gyda Noel Davies wrth y llyw, tyfodd yr aelodaeth yn rhyfeddol o gyflym, a daeth llwyddiannau trawiadol ar lwyfannau cyngerdd ac eisteddfod. Erbyn 1963, gyda’r aelodaeth wedi chwyddo i 120 o gantorion, daeth Côr Meibion Pontarddulais i’r brig ym mhrif gystadleuaeth y corau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno. Cychwyn oedd hwnnw ar record ddihafal o fuddugoliaethau yn ein Prifwyl – 16 hyd yma, a’r diweddaraf ohonynt yn Llanelli yn 2014. Yn ogystal â hyn, enillodd y côr wobrau cyntaf dirifedi yng ngwyliau mawr Aberteifi a Phontrhydfendigaid ac Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl. Daeth llwyddiant hefyd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2001 ac eto yn 2004.

Dros hanner canrif a mwy, bu’r Côr yn perfformio mewn cyngherddau ledled Prydain a thu hwnt ar draws Ewrop, Canada a’r Unol Daleithiau, a hynny’n aml mewn neuaddau ac eglwysi nodedig; darlledwyd yn gyson ar radio a theledu, adref a thramor; perfformiwyd mewn digwyddiadau rhyngwladol o fri; ac ar hyd y blynyddoedd rhoddodd y Côr eu perfformiadau ar gof a chadw trwy gyfrwng llu o recordiau, tapiau a disgiau.

Wrth i’w gyfnod hir a rhyfeddol fel arweinydd ddirwyn i ben yn 2002 ar ôl 42 o flynyddoedd o wasanaeth diflino, gallai Noel Davies edrych nôl ar gyfraniad anhygoel i fywyd cerddorol y genedl. Ond i’r Côr, nid diwedd y stori oedd ei ymddeoliad. Wedi cyfnod fel cyfeilydd y Côr, daeth Clive Phillips yn olynydd teilwng fel Cyfarwyddwr Cerdd, gan barhau â’r egwyddorion a sefydlwyd gan ei ragflaenydd wrth bwysleisio o’r newydd bwysigrwydd amrywiaeth yn y repertoire o’r ysgafn ei natur i gerddoriaeth gyfoes glasurol; darnau Cymraeg eu hiaith yn ogystal ag ieithoedd eraill; ac ymrwymiad digamsyniol i’r egwyddor o gystadlu.

Mae’n dyst i’r ymdeimlad o frawdoliaeth agos o fewn y Côr bod rhai o aelodau’r Clwb Ieuenctid gwreiddiol yn dal i ganu gyda’r Côr Meibion, a bod nifer o’r cantorion presennol wedi rhoi hanner cant o flynyddoedd a mwy o wasanaeth i’r Côr. Yn ogystal â chynnal safonau ar hyd y blynyddoedd llwyddodd y Bont i gynnal niferoedd ei aelodau hefyd, sydd hyd heddiw dros y cant o leisiau.

Yn y blynyddoedd cynnar, adlewyrchu’r diwydiannau glo, dur a thunplat lleol a wna galwedigaethau nifer fawr o’r aelodau, gyda’r rhelyw mewn amrywiaeth o swyddi megis addysg, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol ac ati. Erbyn heddiw, yn naturiol ddigon, mae mwyafrif yr aelodau’n mwynhau ymddeoliad, ond bod canu a pherfformio’n greiddiol i’r ymddeoliad hwnnw wrth gwrs.

Yn ei lyfr, Great Welsh Voices, ysgrifenna Alun Guy:

Y consensws cyffredinol ymhlith beirniaid ac adolygwyr fel ei gilydd yw bod y cyfuniad o leisiau o dros gant o aelodau yn cynhyrchu i’r côr hwn y sain gorawl amatur gorau nid yn unig yng Nghymru ond ym Mhrydain a thu hwnt.

 

Mae’r Côr yn dal i groesawu aelodau newydd o bob oedran, ac os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, cam cyntaf fyddai dod i un o’r ymarferion a gynhelir ddwy waith yr wythnos yn yr Ysgol Gynradd, James Street, Pontarddulais, ar nosweithiau Llun a Mercher rhwng 7 a 9 o’r gloch (ag eithrio mis Awst neu ar Wyliau Banc). Yno cewch flas ar y canu a sut mae’r cantorion yn dysgu eu gwaith. Fe brofwch hefyd y cyfeillgarwch a’r hiwmor iach o fewn y Côr. Does dim angen adnoddau lleisiol arbennig na phrofiad o ganu chwaith, nac yn wir y gallu i ddarllen cerddoriaeth. Y prif hanfodion yw’r gallu i ganu mewn tiwn a’r parodrwydd i ymroi i ddysgu. Trwy ymuno â’r Côr, fe fydd eich llais canu ynghyd a’ch sgiliau darllen, boed y sol-ffa neu’r hen nodiant, yn datblygu a blodeuo.

Wrth gwrs, yn ogystal â darpar aelodau, mae croeso bob amser i aelodau’r cyhoedd yn ein hymarferion. Mae’n werth cadarnhau gyda’r Ysgrifennydd eich bwriad i ymweld rhag ofn bod newid dros dro yn y lleoliad.

Hyderwn y cewch fwynhad yn pori trwy’n gwefan, ac efallai cawn eich croesawu i un o’n cyngherddau yn y dyfodol. (Gweler yr adran ‘Cyngherddau’ am fanylion.)

Cysyllter â’r Ysgrifennydd os oes gennych ddiddordeb mewn gwahodd y Côr i berfformio.

 

Yr Ysgrifennydd, Côr Meibion Pontarddulais

53 Stryd Woodville, Pontarddulais, Abertawe SA4 8SH, Cymru, Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: +44 (0) 1792 884279

E-bost: secretary@pontarddulaismalechoir.com

 

Elusen Gofrestredig Rhif. 244197

English

Cymraeg